Sunday, June 23, 2013


Is-etholiad Ynys Môn By-election

(scroll down for English)
 
Rwy'n cyhoeddi heddiw fy mwriad i geisio am enwebiad Plaid Cymru ar gyfer is-etholiad Cynulliad etholaeth Ynys Môn.  Mae nifer fawr o bobl wedi pwyso arnaf i wneud hynny, ac mae'r gefnogaeth sydd wedi ei dangos i fi dros y dyddiau diwethaf o blith aelodau'r blaid, trigolion Môn a mwyafrif helaeth cynghorwyr Plaid Cymru yr ynys wedi profi i fi y dylwn gynnig fy enw.

Cael cynrychioli Ynys Môn fyddai yr anrhydedd fwyaf allwn i ei derbyn. Cefais i a fy ngwraig ein magu ar yr ynys, a rydym yn magu ein plant ninnau yma. Dyma ein cartref, ac ni allwn i beidio a chymeryd y cyfle hwn i geisio sicrhau dyfodol mwy llewyrchus i bawb ym Môn.

Fel newyddiadurwr, yn darlledu trwy Gymru a Phrydain dros gyfnod o bron i 20 mlynedd, mae'n amlwg na allwn fod yn wleidyddol cyn hyn. Dyna pam yr wyf yn gofyn am ganiatad arbennig Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol Plaid Cymru i gynnig fy enw, fel aelod newydd o'r blaid, ond un sydd yn gwbl ymrwymiedig i werthoedd ac uchelgais Plaid Cymru.





I am today announcing my intention to seek the Plaid Cymru nomination for the Assembly by-election in Ynys Môn. Many people have asked me to do so, and the support I have received over the past few days from party members, the people of Anglesey and Plaid Cymru councillors on the island has proved to me that I should put my name forward.

Representing Anglesey would be the highest honour I could receive. Both myself and my wife were brought up on the island, and we are raising our children here too. This is our home, and I couldn't turn down this opportunity to try to ensure a more prosperous future for everybody on Anglesey.

As a journalist, broadcasting throughout Wales and the UK for nearly 20 years, it is clear that I could not show any political allegiance. That is why I am asking the permission of Plaid Cymru's National Executive to put forward my name for the nomination, as a new member of the party, but as someone wholeheartedly committed to the values and ambitions of Plaid Cymru for our nation.




No comments:

Post a Comment